Gwyliau Glampio Moethus

Penmynydd, Gogledd Cymru

Gwyliau Glampio Moethus yng Ngogledd Cyrmu

Croeso i Pentre Pandy!

Busnes teuleuol yda ni yn rhedeg safle gwyliau glampio moethus ar Ynys Môn, yn agos i Barc

Cenedlaethol Eryri. Rydym yn cynnig y cyfle i chi brofi natur mewn steil. Yma cewch gysgu dan y sêr,

deffro i sŵn llif yr afon Braint a setlo’n gysurus o flaen tanllwyth o dân braf yn eich cwt bbq personol.

Ar ôl diwrnod hir o grwydro a darganfod harddwch Gogledd Cymru, eisteddwch yn ôl ac ymlacio ar

eich balconi preifat sy’n edrych tuag at olygfeydd godidog cefn gwlad.

DSC07891.jpg

Llonyddwch a distawrwydd

Wedi ei lleoli yn berffaith yng nghefn gwlad ar gyrion pentref Llanfairpwllgwyngyll, mae pob un o’r pedwar cwt yn cynnig gwyliau moethus a rhamatus. Mae pob cwt yn gwneud y mwyaf o’r olygfa banoramig o’r ardal wledig o’i chwmpas.

DSC07988.jpg

Pob un yn unigryw

Crefftwr lleol i Ynys Môn sy’n gyfrifol am adeiladu’r cytiau, a phob un yn unigryw. O’r ffenestri i’r gosodiad, mae pob un wedi cael eu adeiladu i wneud y gorau o’r lleoliad a’r amgylchedd.

DSC06486.jpg

Eich Cwt BBQ preifat

Mae pob un o’r cytiau bugail yn dod gyda chwt BBQ preifat. Mae nhw’n berffaith ar gyfer coginio ar y tân, i ymlacio a gwydriad o wîn ar ddiwedd diwrnod anturus. Boed haul neud hindda y cytiau bbq unigryw a chysurus yma ydi’r lle perffaith i ddiweddu’r diwrnod yn cadw chi’n gynnes braf trwy gydol y nos.

DSC07952.jpg

Steil a moethusrwydd

Byddwch yn barod am ychydig o steil pan yn ymweld a Pentre Pandy. Mae pob cwt wedi ei dylunio yn gywrain, yn cynnig steil ond hefyd ymarferoldeb. O flancedi cynnes ac esmwyth i le pwrpasol i baratoi coffi, i fasged o goed tân i gyflenwi’r stôf goed, i soffa glyd, i wely dwbwl cyfforddus, mae popeth yma i sicrhau gwyliau hamddenol a chysurus.

Y Cytiau Bugail

Prisiau yn dechrau o £130 y noson, lleiafswm o 2 noson.

DSC07947.jpg

Y Codwm

DSC07911.jpg

Carlwm

DSC07939.jpg

Braint

DSC07915.jpg

Cwt Bugail

Cyflusterau a rheolau

  • Cwt BBQ preifat

  • Tân ym mhob cwt

  • Caiff coed tân eu darparu ar gyfer y tân cyntaf. Gallwch brynnu mwy o danwydd yma ar y safle am weddill eich arhosiad.

  • Toiledau

  • Cawodydd

  • Radio ym mhob cwt

  • Lleiafswm aros o ddwy noson

  • Oedolion yn unig

  • Golchdy ar y safle

  • Dim anifeiliaid

  • Man heddychlon

  • Dŵr yfed glân

Cysylltwch a ni

Cysylltwch heddiw drwy lenwi ein ffurflen ymholi.

Map o’r safle

Pandybach_Map (1).jpg

Adolygiadau

17 September 2020

Wonderful accommodation. We stayed in Codwm, right next to the river. The BBQ huts are AMAZING and the decor was beautiful. We can’t wait to return next year! Thanks for having us Sandra and Ian.

Mark & Ruth

19 July 2020

The facilities are great! The site is cleverly thought out and everything that you’d need is there. The site is very peaceful and the waking up to the sound of the river flowing was wonderful. We enjoyed a very relaxing few days and would highly recommend Pentre Pandy.

Gwion & Ceri

 
DSC07877.jpg

cynefin

— A Welsh word for a place where a being feels it ought to live. It is where nature around you feels right and welcoming.

 

Sut i’n cyrraedd ni

Pentre Pandy,

Pandy Bach,

Penmynydd,

Llanfairpwll,

LL61 5AZ

Email
bookings@pentrepandy.com

Phone
(01248) 716 450 // 07769910333 // 07780706298